Yr olygfa ym maes awyr Kuala Lumpur ar Chwefror 13
Mae dwy ddynes wedi’u cyhuddo’n ffurfiol o daenu cemegyn gwenwynig VX ar hanner brawd arweinydd Gogledd Corea, gan ei ladd.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Kim Jong Nam ym maes awyr Kuala Lumpur ar Chwefror 13, a bu farw’n fuan wedi i ddwy wraig ddod ato a rhwbio rhywbeth ar ei wyneb.

Mae’r ddwy ddynes yn dweud eu bod nhw wedi credu eu bod yn rhan o raglen deledu oedd yn chwarae triciau ar deithwyr diniwed.

Mae un o’r gwragedd, sy’n hanu o Indonesia, wedi dweud wrth yr awdurdodau iddi gael ei thalu 90 doled (£72).