Mae ail ffin rhwng Pacistan ac Afghanistan wedi cael ei chau yn dilyn ffrwydrad yn ne Pacistan.
Cafodd 88 o bobol eu lladd gan hunanfomiwr yn y ffrwydrad.
Mae’r penderfyniad i gau’r ffin yn cael ei weld fel tacteg i roi pwysau ar lywodraeth Afghanistan i weithredu yn erbyn gwrthryfelwyr sydd wedi’u cyhuddo o gael eu cuddio ganddyn nhw.
Roedd rhan o’r ffin rhwng y ddwy wlad ger Torkham eisoes ynghau cyn y ffrwydrad diweddaraf.
Mae Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – yn dweud mai nhw oedd yn gyfrifol am y ffrwydrad.