Yng Nghaliffornia mae 188,000 o bobl wedi cael gorchymyn i adael eu cartrefi oherwydd problemau gydag argae uchaf yr Unol Daleithiau.

Yn ôl yr awdurdodau mae’r bobl wedi’u symud er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd nes eu bod yn cael rhagor o wybodaeth am Argae Oroville, tua 150 milltir i’r gogledd ddwyrain o San Ffransisco.

Mae 250 o swyddogion yr heddlu yn yr ardal neu ar eu ffordd yno.

Mae Argae Oroville yn mesur 770 troedfedd o uchder. Roedd problemau wedi codi gyda sianel orlif brys yr argae gyda dŵr yn llifo drosy top.

Mae swyddogion yn ceisio asesu’r difrod cyn penderfynu pa fesurau i’w cymryd.