Mae eithafwyr wedi bod yn tanio bwledi ger maes awyr Mogadishu, yn agos iawn i’r man lle bydd etholiad arlywyddol Somalia yn cael ei gynnal heddiw.

Yn y cyfamser, mewn tre’ ar gyrion y brifddinas, mae grwp o eithafwyr al-Shabab wedi ymosod ar wersyll milwrol.

Fe ddaw’r ddau ymosodiad wedi i fudiad al-Shabab fygwth defnyddio trais er mwyn amharu ar yr etholiad.

Mae’r etholiad yn cael ei gynnal mewn hen faes awyr yn Mogadishu. Mae adroddiadau’n dweud fod y strydoedd bron yn wag, a bod pobol wedi’u cynghori i aros yn eu tai.

Mae bygythiadau al-Shabab, sy’n gysylltiedig ag al-Qaeda, wedi golygu bod yr etholiad wedi’i ohirio nifer o weithiau yn ystod 2016.