Francois Fillon (llun Peter Macdiarmid/PA Wire)
Mae ymgeisydd arlywyddol Ffrainc wedi dweud nad yw’n bwriadu rhoi’r gorau i’w ymgais yn dilyn ffrae ariannol am swydd ei wraig, sy’n wreiddiol o’r Fenni.

Dywedodd Francois Fillon sy’n ymgeisydd ar ran y ceidwadwyr nad oedd wedi gwneud dim anghyfreithlon wrth roi swydd cynorthwyydd i’w wraig, Penelope Fillon.

Ychwanegodd y bydd yn cyhoeddi ei asedau yn ddiweddarach ar y we, gan ymddiheuro am gyflogi ei wraig gan ddweud ei fod yn deall fod rhoi gwaith i aelodau’r teulu yn rhywbeth sy’n cael ei wrthod bellach.

Mae cefnogaeth Francois Fillon wedi disgyn dros y bythefnos ddiwethaf yn dilyn adroddiadau yn y wasg Ffrengig fod ei wraig wedi cael ei thalu tua £717,000 dros y 15 mlynedd ddiwethaf.

Roedd Francois Fillon yn cydnabod hefyd fod ei raglen arfaethedig i’r llywodraeth, sy’n cynnwys gwaredu â 500,000 o swyddi sector cyhoeddus yn “siomi pobol.”

Ond dywedodd “dyna’r unig ffordd a all roi hyder yn ôl i’r Ffrancwyr.”