Mae 18 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn tân mewn canolfan tylino traed yn China.
Cafodd dau o bobol eraill eu hanafu.
Bu’n rhaid i weithwyr neidio allan o’r adeilad trwy’r ffenestri yn y ganolfan yn nhalaith Zhejiang yn nwyrain y wlad.
Dydy hi ddim yn glir eto beth oedd wedi achosi’r tân.