Marine Le Pen (Llun: PA)
Mae arweinydd y Front National, Marine Le Pen wedi lansio’i hymgyrch i fod yn arlywydd nesaf Ffrainc drwy ddweud mai globaleiddio economaidd a brawychiaeth yw’r ddau brif fygythiad sy’n wynebu’r wlad.

Lansiodd ei hymgyrch yn ystod cynhadledd ei phlaid yn Lyon y prynhawn yma.

Dywedodd fod y bygythiadau’n “plannu eu hunain mewn rhai cymdogaethau… a meddyliau diniwed”.

Dywedodd fod gwisgoedd Mwslimaidd, mosgiau a gweddïau Mwslimaidd yn fygythiadau annerbyniol “na all unrhyw Ffrancwr… sydd ag urddas eu derbyn”.

Ei haraith hi sy’n cloi’r gynhadledd.