Mae’r bachgen pump oed a fu farw yn yr ysgol ar ôl tagu wedi cael ei enwi.

Bu farw Theodore Silvester ar ôl mynd yn sâl yn ysgol gynradd Anlaby yn Hull ddydd Gwener.

Does dim amgylchiadau amheus, ac mae disgwyl archwiliad post-mortem i gael ei gynnal yn ddiweddarach.

Mae’r teulu wedi gofyn am breifatrwydd, ond fe ddywedodd ei brifathro Gareth May wrth yr Hull Daily Mail fod y gymuned yn “drist iawn yn sgil y digwyddiad trasig hwn”.