Donald Trump (Llun: Michael Vadon/CCA4.0)
Mae un o adrannau llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi gwyrdroi’r penderfyniad i ganslo fisa tramorwyr yn dilyn dyfarniad gan farnwr yn Seattle.

Roedd yr Arlywydd Donald Trump wedi cyflwyno gwaharddiad teithio ar drigolion saith o wledydd, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n Fwslimiaid.

Roedd yr Adran Wladol wedi atal 600,000 o bobol rhag teithio drwy ddiddymu eu fisa yn dilyn y gorchymyn gan Donald Trump.

Ond fe benderfynon nhw weithredu ar sail cyngor y barnwr yn Washington.