Criwiau achub ar safle Hotel Rigopiano (Llun: PA)
Mae criwiau achub wedi dod o hyd i fwy o gyrff yn rwbel gwesty yn yr Eidal a gafodd ei chwalu gan gwymp eira.

Mae cyfanswm y bobol sydd wedi’u lladd bellach wedi cyrraedd 23, wrth i’r achubwyr hefyd alaru rhai o’u cydweithwyr fu farw mewn damwain hofrennydd gerllaw.

Fe blymiodd yr hofrennydd argyfwng i ochr mynydd ddydd Mawrth, wrth i’r criw ddod allan i geisio achub sgïwr oedd mewn trafferthion. Fe laddwyd y ddau beilot, tri aelod o’r criw, ynghyd â’r sgïwr. Roedd rhai o aelodau’r tim wedi bod yn gweithio ar safle’r cwymp eira tan ddydd Llun yr wythnos hon.

Erbyn hyn, mae nifer y meirw o ganlyniad i drychineb Ionawr 18 yn Hotel Rigopiano yn 23, mae chwech o bobol yn dal ar goll o dan dunelli o eira a rwbel. Mae’r chwilio yn parhau.

Fe fydd prif weinidog yr Eidal, Paolo Gentiloni, yn briffio’r senedd yn ddiweddarach heddiw ar y gyfres o ddaeargrynfeydd, yr eira trwm a’r cwymp eira sydd wedi taro’r wlad dros yr wythnosau diwetha’.