Pab Ffransis (Llun: PA)
Mae pennaeth urdd Pabyddol yn Ynys Melita wedi ymddiswyddo yn dilyn ffrae gyhoeddus gyda’r Pab ynglyn â swyddog a gollodd ei swydd oherwydd sgandal yn ymwneud â chondoms.

Fe gyfarfu Matthew Festing â’r Pab Ffransis ddydd Mawrth, a chyflwyno ei ymddiswyddiad, meddai llefarydd ar ran y mudiad lleyg, Marchogion Melita (Knights of Malta).

Roedd Matthew Festing wedi gwrthod cydweithio â’r comisiwn oedd yn ymchwilio i achos diswyddo’r canghellor, Albrecht von Boeselager, tros honiadau fod yr urdd wedi bod yn dosbarthu offer atal cenhedlu o dan ei arweinyddiaeth.

Yr wythnos ddiwetha’, fe ddaeth datganiad siarp o’r Fatican yn dweud eu bod nhw’n bwriadu gweithredu ar fyrder er mwyn dod â’r anghydfod i ben.

Mae’r achos hwn yn enghraifft arall o’r modd y mae’r Pab wedi dod ben-ben ag agweddau ceidwadol yr eglwys.