Zhou Youguang (llun o wefan Wikipedia CC BY-SA 3.0)
Mae arloeswr ieithyddol o China wedi marw yn 111 oed.

Zhou Youguang a ddatblygodd y dull a ddefnyddir ar gyfer ysgrifennu seiniau Tsieineeg mewn llythrennau Rhufeinig.

Ar ôl byw a gweithio yn yr Unol Daleithiau am gyfnod, dychwelodd i China yn 1949, lle cafodd swydd i oruchwylio pwyllgor a oedd yn gweithio ar system newydd i alluogi i nodau Tsieineaidd gael eu trosi i lythrennau gorllewinol.

Cafodd Pinyin ei mabwysiadu gan lywodraeth China yn 1958, a’i gydnabod yn fyd-eang.

Bellach yn oes cyfrifiaduron a ffonau clyfar, mae’r dull wedi ennill ei blwyf i’r graddau fod rhai pobl yn pryderu ei fod yn disodli’r ysgrifennu traddodiadol.

Aeth Zhou Youguang ymlaen i weithio ar gyfieithiad Tsieineeg swyddogol o’r Encyclopedia Britannica a daliodd i ysgrifennu ar ôl cyrraedd 100 oed. Yn ystod ei flynyddoedd hyn, roedd yn hallt ei feirniadaeth o’r blaid Gomiwnyddol am wrthod arddel democratiaeth, a chafodd llawer o’i lyfrau eu gwahardd gan lywodraeth y wlad.

Fe fu farw yn ei gartref yn Beijing ddiwrnod ar ôl dathlu ei benblwydd yn 111.