Mae sianel deledu wedi rhoi’r gorau i ddangos drama deledu yn portreadu bywyd Michael Jackson oherwydd gwrthwynebiad chwyrn teulu’r canwr pop.
Roedd Sky Arts wedi gofyn i Joseph Fiennes chwarae rhan Michael Jackson mewn rhaglen o’r gyfres Urban Myths, sy’n portreadu hanesion a helyntion gwahanol enwogion.
Yr wythnos hon fe ddywedodd merch Michael Jackson, Paris, sy’n 18 oed, bod gweld tamaid o’r rhaglen wedi gwneud iddi deimlo fel “chwydu”.
“Dw i wedi fy ffieiddio gan y rhaglen a dw i’n siŵr bod llawer o bobol eraill hefyd. Rwy’n gandryll eu bod wedi ymddwyn mor sarhaus, nid yn unig tuag at fy nhad ond tuag at fy mam bedydd Liz [Taylor] hefyd.”
Dywedodd rheolwyr Sky Arts eu bod yn sgrapio’r rhaglen, Elizabeth, Michael And Marlon, gyda’r penderfyniad yn cael ei gefnogi gan Joseph Fiennes.
Fe fydd y Cymro Iwan Rheon hefyd yn rhan o’r gyfres Urban Myths yn chwarae rhan Adolf Hitler.