Llun camera cylch cyfyng o'r saethwr yn mynd i mewn i'r clwb nos (Papur Haberturk trwy law AP)
Mae’r mudiad Islamaidd milwrol IS wedi hawlio cyrfifoldeb am ymosodiad a laddodd o leia’ 39 o bobol mewn clwb nos yn Nhwrci.

Hynny wrth i helfa fawr barhau am y dyn a ddefnyddiodd ddryll Kalashnikov i ymosod ar bobol yn dathlu’r Calan.

Mae lluniau camerâu cylch cyfyng yn dangos dyn mewn du yn dechrau saethu y tu allan i’r clwb ar ochr Ewropeaidd dinas Istanbul.

Fe gafodd un plismon a gweithiwr twristiaeth eu lladd bryd hynny, cyn i’r lladdwr fynd i mewn i ganol y cannoedd oedd yn dathlu’r flwyddyn newydd.

Fe ddaeth yn amlwg bellach fod 25 o’r meirw’n bobol dramor – nifer o’r Dwyrain Canol a rhai o wledydd cyn belled ar wahân â Gwlad Belg, Canada ac India.

Cwrdiaid yn gwadu cyfrifoldeb

Tan heddiw, doedd neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ac roedd mudiad Cwrdaidd y PKK wedi dweud nad nhw oedd y tu cefn iddo.

Roedd arbenigwyr ar frawychaeth eisoes wedi awgrymu bod yr ymosodiad yn nodweddiadol o ymosodiadau gan gefnogwyr IS.

Mae awdurdodau’r Unol Daleithiau wedi rhybuddio eu dinasyddion nhw i symud cyn lleied â phosib o amgylch Istanbul gan rybuddio bod brawychwyr yn targedu ardaloedd lle mae llawer o dramorwyr.