Mae swyddog difa bomiau yn yr Eidal wedi colli llygad a llaw, wedi i becyn amheus yr oedd yn ei archwilio ffrwydro.

Roedd y pecyn wedi’i adael y tu allan i siop lyfrau yn ninas Fflorens, a’r gred ydi mai’r grwp asgell dde eithafol, CasaPound, oedd yn gyfrifol amdano.

Fe gafodd yr uned ddifa bomiau ei galw tua 5yb, Ionawr 1, ac fe gafodd y swyddog ei anafu’n ddifrifol iawn.

Mae’r ymosodiad hwn wedi’i feirniadu’n llym gan wleidyddion a ffigyrau amlwg o fewn yr eglwys Gatholig yn yr Eidal. Mae ymchwiliad i geisio dod o hyd i’r bomiwr, yn dal i fynd rhagddo.