Abubakar Shekau (Llun: PA)
Mae arweinydd Boko Haram, Abubakar Shekau wedi annog ei filwyr i “ladd, cyflafanu a chipio… a ffrwydro bomiau ym mhob man”.
Daw’r neges mewn fideo newydd sydd wedi dod i’r golwg, lle mae’r arweinydd yn wfftio honiadau llywodraeth Nigeria bod y brawychwyr wedi cael eu trechu.
Dywedodd yr Arlywydd Muhammadu Buhari yr wythnos diwethaf fod milwyr wedi gwthio Boko Haram allan o’u cadarnle olaf yng nghoedwigoedd y wlad.
Ond yn y fideo ar YouTube, dywed Abubakar Shekau: “Dw i yma, yn fyw ac yn iach”.
Ychwanegodd fod y “frwydr megis dechrau”.
Mae byddin Nigeria wedi honni o leiaf dair gwaith iddyn nhw ladd yr arweinydd, ac fe ddywedon nhw’r wythnos hon ei fod e wedi ffoi.
Bob tro mae’r llywodraeth yn honni iddyn nhw ei ddal, mae Abubakar Shekau yn creu fideo newydd yn gwrthddweud yr honiadau.
Y tro hwn, mae e wedi galw ar ei fudiad i “ladd y rhai anffyddlon a ffrwydro bomiau ym mhob man”.
Ond does dim sôn yn y fideo am 200 o ferched ysgol o Chibok a gafodd eu cipio gan Boko Haram.