Mae cwmni olew mawr Maersk yn Denmarc wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi’r gorau i gynhyrchu nwy naturiol ym Môr y Gogledd y flwyddyn nesa’ – a hynny oherwydd bod y cyfleusterau yno “yn dod i ddiwedd eu hoes”.

Fe ddaeth cadarnhad gan brif weithredwr y cwmni, Martin Rune Pedersen, nad ydi’r cwmni “yn gallu parhau i gynhyrchu yn ddiogel” er bod gwelliannau wedi bod i’r cyfleusterau dros y 15 mlynedd diwetha’.

Does yna “ddim modd economaidd” o allu dal ati i gynhyrchu, meddai, er bod y maes yn cynrychioli 90% o holl nwy naturiol gwlad Denmarc.

Mae disgwyl i Maersk Oil roi’r gorau i dynnu nwy naturiol o’r maes ar Hydref 1, 2017.