Teiffwn Nock-Ten (Llun: PA)
Mae gwynt cry’ a darodd ogledd y Ffilipinas ar ddydd Nadolig, wedi lladd beth bynnag hanner dwsin o bobol, ac wedi gorfodi mwy na 380,000 o bobol eraill i adael eu cartrefi a chwilio am gysgod.

Mae teiffwn Nock-Ten hefyd wedi torri’r cyflenwad trydan i bump o ranbarthau’r wlad, trwy gwympo coed a pholion teligraff. Mae dros 300 o ehediadau wedi’u gohirio neu eu canslo’n llwyr, ac mae llongau fferi wedi’u rhwystro rhag hwylio, gan adael 12,000 o deithwyr yn sownd.

Mae chwech o bobol wedi marw o ganlyniad i foddi neu o gael eu taro gan goed yn syrthio. Fe ddaeth wal goncrid i lawr hefyd yn Quezon ac Albay, i’r de-ddwyrain o Manila.

Fe Nock-Ten, locally known as Nina, then blew westward across mountainous and island provinces, damaging homes, uprooting trees and knocking down communications.