Protest gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg
Ar 28 Ebrill 1966, cafodd Geraint Jones o Drefor ei garcharu am fis am beidio â thalu treth ei gar fel rhan o’r ymgyrch i geisio ennill statws swyddogol i’r iaith Gymraeg.

Erbyn hyn, hanner canrif yn ddiweddarach, mae’r aelod cynta’ o’r Gymdeithas i gael ei garcharu, yn dweud bod sefyllfa’r Gymraeg yn “waeth na fuodd erioed”, gyda’r iaith yn “dirywio’n gyflym” yn ein bröydd traddodiadol.

“Os nad oes gynnoch chi gymunedau, os nad oes gynnoch chi gymdeithas Gymraeg sy’n byw eu bywyd drwy’r Gymraeg, wel pa ddefnydd sydd iddi ond fel iaith llyfr, iaith academaidd, iaith farw? Dda i ddim byd,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r frwydr yn cael ei cholli’n gyflym iawn y ddyddiau yma… ac rwan efo’r holl adeiladu tai a Wylfa… wel mae’n edrych yn ddu iawn, iawn ar y Gymraeg.

“Cadw’r hyn sydd gynnon ni ydy’n gwaith ni ar hyn o bryd mae gen i ofn, nid sôn am filiwn o siaradwyr yn Sir Faesyfed a Gwent ond cadw’r hyn sydd gynnon ni yn yr ardaloedd yma.

“Dyna ydi’r flaenoriaeth… ond fydd y gwleidyddion ddim yn gweld hynny achos dydyn nhw ddim isio gweld hynny.”

Mae Geraint Jones yn trafod ei anobaith dros yr iaith yn y clip sain hwn: