Tu-154 ar hanner ei hadeiladu (Fyodor Borizov CCA 3.0)
Mae un o benathiaid amddiffyn Rwsia wedi dweud yn bendant nad ymosodiad oedd yn gyfrifol am drychineb awyr pan laddwyd 92  o bobol, gan gynnwys aelodau o gôr milwrol.

Doedd dim posib i’r digwyddiad gael ei achosi gan frawychwyr, meddai Viktor Ozerov, pennaeth pwyllgor materion milwrol Rwsia.

Fe allai fod wedi digwydd oherwydd camgymeriad neu nam technegol, meddai, ond doedd dim posib iddo fod yn ymosodiad bwriadol gan fod yr awyren yn nwylo’r lluoedd arfog.

Diflannu

Fe ddiflannodd yr awyren Tu-155 ychydig funudau ar ol iddi godi o’r awyr uwchben y Môr Du, are i ffordd o Rwsia i Syria.

Roedd 8 o griw ac 82 o deithwyr ar ei bwrdd, a’r rheiny’n cynnwys aelodau o gôr a band milwrol a oedd ar eu ffordd i ddiddanu milwyr Rwsia yn Syria.

Mae achubwyr wedi dod o hyd i un corff a darnau o’r awyren.

Roedd amheuon am ymosodiad brawychol wedi codi yn dilyn llofruddiaeth llysgennad Rwsia yn Nhwrci.