Mae Boko Haram wedi cael eu “trechu” yng nghoedwigoedd Nigeria, yn ôl Arlywydd y wlad, Muhammadu Buhari.
Mae’r brawychwyr wedi ffoi yn dilyn ymladd yn ‘Camp Zero’ yng nghoedwig Sambisa, a does “unlle i guddio”, meddai’r Arlywydd.
Mae lle i gredu mai yn y goedwig hon y mae 200 o ferched ysgol a gafodd eu cipio o dref Chibok ym mis Ebrill 2014.
Mae Muhammadu Buhari wedi apelio unwaith eto ar wrthryfelwyr i sicrhau bod y merched yn cael eu canfod a’u rhyddhau’n ddiogel.