Mae dau ddyn wedi ymddangos gerbron llys wedi’u cyhuddo o droseddau brawychol.

Mae Munir Hassan Mohammed, 35 o Derby, wedi’i gyhuddo o baratoi ar gyfer gweithred frawychol yn ail hanner y flwyddyn, bod yn aelod o Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – a bod â chyfarwyddiadau i’w helpu i adeiladu ffrwydron y tu fewn i ffôn symudol yn ei feddiant.

Mae e hefyd wedi’i gyhuddo o ddosbarthu llenyddiaeth brawychol.

Mae Rowaida El Hassan, 32 o Lundain, wedi’i gyhuddo o baratoi ar gyfer gweithred frawychol ac o fod â chyfarwyddiadau i’w helpu i adeiladu ffrwydron y tu fewn i ffôn symudol yn ei feddiant.

Roedden nhw ymhlith chwech o bobol a gafodd eu harestio ar Ragfyr 12 fel rhan o ymchwiliad eang, ond cafodd y pedwar arall eu rhyddhau.