Mae pum dyn wedi eu rhoi  yn y ddalfa yn Awstralia dan amheuaeth o gynllwynio cyfres o ymosodiadau terfysgol yn ail ddinas fwyaf y wlad ar ddydd Nadolig.

Eu bwriad oedd ymosod ar nifer o leoliadau yn Melbourne gan gynnwys prif eglwys a gorsaf drenau, gyda drylliau a ffrwydron.

Yn ôl Prif Gomisiynydd Heddlu talaith Victoria roedd y cynllwynwyr wedi eu dylanwadu gan ISIS ac wedi bod yn cynllunio’r ymosodiadau am dair wythnos.

Cafodd saith unigolyn eu harestio yn wreiddiol yn ystod cyrch heddlu nos Iau, ond fe ryddhawyd dau ohonyn nhw heb gyhuddiad.

Mae pedwar o’r ymosodwyr yn enedigol o Awstralia gyda’r pumed aelod yn meddu ar ddinasyddiaeth Eifftaidd ac Awstralaidd.

Bydd plismyn ychwanegol ar strydoedd Melbourne ar ddydd Nadolig er mwyn gwneud i’r cyhoedd deimlo’n fwy diogel.