Y gwasanaethau brys ar safle'r digwyddiad ym Merlin (Llun: Claire Hayhurst/PA)
Yn yr Almaen, mae 12 o bobl wedi’u lladd ar ôl i lori yrru at dorf mewn marchnad Nadolig ym Merlin.
Mae’r heddlu’n credu bod y lori wedi ei yrru’n fwriadol at y dorf ac maen nhw’n amau ei fod yn ymosodiad brawychol.
Cafodd 48 o bobl eu hanafu, rhai’n ddifrifol, pan yrrodd y lori at y farchnad tu allan i Eglwys Kaiser Wilhelm yn Breitscheidplatz nos Lun.
Dywedodd yr heddlu ym Merlin ar Twitter fore dydd Mawrth bod y digwyddiad yn fwriadol a’u bod yn amau ei fod yn weithred frawychol.
Cafodd person, y credir oedd yn gyrru’r lori, ei arestio ger y safle, meddai’r awdurdodau. Yn ôl adroddiadau, mae’n geisiwr lloches o Bacistan.
Roedd teithiwr yn y lori, a oedd yn dod o Wlad Pwyl, ymhlith y meirw, meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
Mae’r Swyddfa Dramor wedi rhybuddio Prydeinwyr sy’n teithio i’r Almaen am y risg uchel o frawychiaeth gan ddweud y “bydd diogelwch llym mewn grym dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, gan gynnwys marchnadoedd Nadolig a digwyddiadau eraill a allai ddenu torfeydd mawr.”
Marchnad Nadolig – ‘un o’r prif resymau i ymweld’
Un sydd allan ym Merlin ar hyn o bryd ydy Aled Morgan Hughes sy’n wreiddiol o Langadfan ym Mhowys.
Esboniodd ei fod wedi ymweld â marchnadoedd Nadolig yn y ddinas ddoe, a’i fod wedi bwriadu ymweld â’r farchnad lle digwyddodd yr hyn sy’n cael ei amau o fod yn ymosodiad brawychol.
“Mi oedd yr awyrgylch ddoe yn Nadoligaidd, pawb yn hamddenol a hapus… Doeddwn i ddim wedi clywed beth oedd wedi digwydd tan inni ddychwelyd i’r gwesty, cael negeseuon a throi’r teledu ymlaen,” meddai wrth golwg360.
“Roedden ni wedi bwriadu ymweld â’r farchnad honno, mae’n un o’r prif resymau i ddod i Berlin dros gyfnod y Nadolig,” meddai.
Dywedodd nad oedd bwriad ganddo i gwtogi hyd ei daith, a’i fod am ymweld â gweddill y ddinas dros y dyddiau nesaf, “ac mae’n siŵr y bydd naws gwahanol iawn yng nghanol y ddinas heddiw.”