Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan
Mae 13 o filwyr wedi cael eu lladd a 48 wedi eu hanafu ar ôl i fom car ffrwydro yn Nhwrci.

Digwyddodd yr ymosodiad yn nhalaith Kayseri am 8.45 fore Sadwrn, ac mae lle i gredu bod milwyr wedi cael eu targedu’n fwriadol.

Cafodd degau o bobol eu cludo i’r ysbyty ag anafiadau, ac mae lle i gredu bod nifer o bobol gyffredin ymhlith y rhai a gafodd eu hanafu neu eu lladd ger y fynedfa i Brifysgol Erciyes.

Cafodd bws ei daro gan y bom.

Mae cyfryngau’r wlad wedi cael eu gwahardd rhag adrodd am y digwyddiad am y tro rhag iddyn nhw achosi “ofn” wrth i’r ymdrechion i dawelu lluoedd Cwrdaidd barhau.

Yr wythnos diwethaf, cafodd 44 o bobol eu lladd ar ôl i fom gael ei ffrwydro ger stadiwm bêl-droed yn Istanbul, gyda lluoedd Cwrdaidd yn hawlio cyfrifoldeb.