Park Geun-hye (korea.net Gwasanaeth Diwylliant a Gwybodaeth Corea Chong Wa Dae CCA 2.0))
Mae senedd De Corea wedi pleidleisio o blaid uchelgyhuddo’r arlywydd Park Geun-hye tros achosion o lygredd yn ei herbyn.

Mae pwerau Park Geun-hye hefyd wedi cael eu tynnu oddi arni wrth i lys cyfansoddiadol benderfynu a fydd yr achos yn mynd yn ei flaen.

Os bydd chwech o’r naw barnwr yn gefnogol i’r uchelgyhuddo, fe fydd Park Guen-hye yn colli’r arlywyddiaeth ac etholiadau yn cael eu cynnal o fewn 60 diwrnod.

Mae erlynwyr wedi ei chyhuddo o lygredd ariannol ac am gamddefnyddio ei safle ond mae Park Geun-hye yn gwadu’r honiadau.

Mae gan y llys cyfansoddiadol 180 diwrnod i ddyfarnu.