Mae pobl Awstria wedi ailethol Alexander Van der Bellen yn arlywydd, a lwyddodd i drechu’r ymgeisydd cenedlaetholgar asgell dde, Norbert Hoffer.

Mae’r canlyniadau cychwynnol yn dangos Alexander Van der Bellen, cyn-aelod blaenllaw o blaid y Gwyrddion, ar 53.5% o’r bleidlais, o gymharu â 46.4% i Norbert Hoffer.

Roedd wedi trechu Norbert Hoffer o drwch blewyn yn yr etholiad gwreiddiol ym mis Mai, ond enillodd hwnnw’r hawl i  ail etholiad heddiw.

Er mai swydd seremonïol yn bennaf yw arlywydd Awstria, gallai’r canlyniad fod yn arwydd sut mae’r gwynt yn chwythu gyda rhagor o etholiadau ar dir mawr Ewrop y flwyddyn nesaf.

“Mae’r hyn sy’n digwydd yma heddiw yn berthnasol i Ewrop gyfan,” meddai Alexander Van der Bellen.

Roedd Norbert Hoffer wedi bod yn dadlau nad yw mor radical ag y mae rhai yn honni ei fod. Er iddo ddweud ar un adeg y byddai’n well ar Awstria petai hi’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd dywedodd na fyddai’n gwthio am refferendwm i Awstria adael.