Fidel Castro (llun: PA)
Dywed arlywydd Cuba, Raul Castro, y bydd ei lywodraeth yn gwahardd enwi strydoedd neu adeiladau cyhoeddus ar ôl ei frawd Fidel, yn unol â dymuniad y cyn-arweinydd i osgoi cwlt personoliaeth.

Fe fydd cynulliad cenedlaethol y wlad yn pasio deddf a fydd yn gwahardd defnyddio enw Fidel Castro ac yn gwahardd codi unrhyw ddelwau neu gerfluniau ohono.

Fe wnaeth Raul Castro’r cyhoeddiad ar ddiwedd rali anferth yn Santiago de Cuba ddoe fel rhan o ddigwyddiadau galaru swyddogol y wlad am y cyn arweinydd a fu farw’n 90 oed ar 25 Tachwedd.

Fe fydd llwch Fidel Castro yn cael ei gladdu ym mynwent Santa Ifigenia yn Santiago heddiw, pryd y daw’r cyfnod naw diwrnod o alaru i ben.

Er nad oedd ar Fidel Castro eisiau creu cwlt personoliaeth ohono’i hun, mae Cuba yn frith o ddelweddau o’i gyd-chwyldroadwr, Ernesto ‘Che’ Guevara.