Donald Trump (llun: AP/David Goldman)
Mae arlywydd newydd America, Donald Trump, wedi tramgwyddo yn erbyn China wrth siarad yn uniongyrchol gydag arweinydd Taiwan.

Dywed gweinidog tramor China ei fod yn gobeithio na fyddai’r sgwrs rhwng Donald Trump ac arlywydd Taiwan, Tsai Ing-wen, yn newid polisi America tuag at China.

“Mae’r polisi ‘China yn un’ yn gonglfaen datblygiad y berthynas iach rhwng China ac America, a’n gobaith yw na fydd unrhyw ymyrraeth â’r sylfaen wleidyddol hon,” meddai Wang Yi.

Statws

Mae statws Taiwan wedi bod yn fater sensitif yn y berthynas rhwng America a China. Mae China yn ystyried Taiwan fel rhan o’i diriogaeth, a byddai unrhyw gydnabyddiaeth o arweinydd Taiwan fel pennaeth gwladwriaeth yn annerbyniol yn ei golwg.

Ers 1979, mae America yn dilyn polisi ‘China yn un’, sy’n golygu ei bod yn cydnabod mai llywodraeth Beijing sy’n cynrychioli China, er ei bod yn cynnal cysylltiadau answyddogol â Taiwan.

Dywedodd Donald Trump mewn trydariad mai arlywydd Taiwan a wnaeth ei ffonio ef i’w longyfarch ar ennill yr arlywyddiaeth. Mae’n ymddangos ei fod wedi torri pob confensiwn wrth dderbyn yr alwad heb unrhyw gyngor na chanllawiau gan Adran Wladol America, sy’n gyfrifol am faterion diplomyddol y wlad.