Mae disgwyl i dri enw arall gael eu hychwanegu at gabinet darpar Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wrth iddo barhau i adeiladu’r tîm fydd yn ei gynorthwyo yn y Tŷ Gwyn.

Y gred yw y bydd un o gyn-benaethiaid Goldman Sachs, Steven Mnuchin yn cael swydd Ysgrifennydd y Trysorlys, gyda Tom Price yn cael ei ystyried i oruchwylio’r system iechyd, ac Elaine Chao yn gyfrifol am drafnidiaeth.

Mae Tom Price o Georgia wedi bod yn wrthwynebydd croch i gynlluniau iechyd Barack Obama yn y gorffennol, ac mae e o blaid preifateiddio gofal iechyd.

Fe allai’r cyhoeddiad am Steven Mnuchin gael ei wneud heddiw, yn ôl adroddiadau.

Does ganddo fe ddim profiad o weithio i’r llywodraeth, ond mae e’n gyfaill agos i Donald Trump a’i deulu, ac fe fyddai’n gyfrifol am lunio polisïau treth ac isadeiledd, ynghyd â sancsiynau economaidd rhyngwladol.

Fe allai Wilbur Ross hefyd ymuno â’r Trysorlys, ac mae yntau’n arbenigwr ar fethdalwriaeth.

Mae’r cyn-ymgeisydd arlywyddol Mitt Romney yn cael ei ystyried ar gyfer swydd prif ddiplomat y wlad, ac mae e eisoes wedi cynnal cyfarfodydd â’r arlywydd.