Aleppo yn Syria Llun: PA
Mae tua 16,000 o bobol wedi cael eu gorfodi i adael ardal Aleppo yn Syria wrth i lywodraeth y wlad barhau i gynnal ymosodiadau dwys ar wrthryfelwyr sydd wedi meddiannu’r ddinas.

Dywedodd pennaeth materion dyngarol y Cenhedloedd Unedig bod disgwyl i filoedd yn fwy o bobol ddianc os yw’r ymladd a’r cyrchoedd awyr yn parhau yn y dyddiau nesaf.

Mae nifer o’r trigolion yn gorfod ffoi i ardaloedd Cwrdaidd ac eraill mewn sefyllfaoedd ansicr, meddai Stephen O’Brien.

Mae dwyrain Aleppo, dinas fwyaf Syria, wedi bod yn nwylo gwrthryfelwyr ers 2012, ac mae brwydro caled wedi bod ar ei strydoedd ers cychwyn cyrch newydd gan y llywodraeth i ail-gipio’r ddinas bron i bythefnos yn ôl.