Donald Trump (llun: AP/David Goldman)
Mae’r darpar arlywydd Donald Trump wedi honni bod “miliynau” wedi pleidleisio’n anghyfreithlon yn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, wrth iddo baratoi at symud i’r Tŷ Gwyn.

Bu’n ymateb i alwadau i ail gyfrif pleidleisiau mewn tair ardal bwysig yr enillodd ond mae wedi dweud bod y bobol hynny’n “drist”.

Er mai fo enillodd yr etholiad, Hillary Clinton enillodd y bleidlais boblogaidd, ac yn sgil hynny mae Donald Trump yn dweud ei fod yn amau dilysrwydd y bleidlais.

“Fi enillodd y bleidlais boblogaidd os ydach chi’n diystyru’r miliynau o bobol wnaeth bleidleisio’n anghyfreithlon,” meddai ar ei gyfrif trydar ddydd Sul.

Dilynwyd hynny gyda neges arall ganddo yn dweud bod “twyll difrifol” wedi digwydd yn ardaloedd Virginia, New Hampshire a California.