Fe fydd ceidwadwyr yn Ffrainc yn dewis heddiw rhwng Francois Fillon ac Alain Juppe i fod yn ymgeisydd arlywyddol.

Mae’r ddau yn gyn-brif weinidogion gweriniaethol y wlad a chanddyn nhw brofiad helaeth o fod yn rhan o’r llywodraeth.

Mae lle i gredu mai Francois Fillon yw’r ceffyl blaen, ac mae’n cael ei ganmol yn helaeth am ei ddulliau uniongyrchol o ymdrin ag eithafiaeth Islamaidd.

Gweledigaeth heddychlon sydd gan Alain Juppe, sy’n ffafrio dulliau mwy parchus o fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol.

Mae gan y ddau safbwyntiau gwahanol hefyd am y berthynas â Vladimir Putin.

Fe allai’r ymgeisydd blaenorol fynd ben-ben ag arweinydd y Front National, Marine Le Pen yn yr etholiad ym mis Ebrill.

Dydy’r Arlywydd Francois Hollande ddim wedi cyhoeddi eto a fydd e’n sefyll fel ymgeisydd unwaith eto, a hynny’n dilyn cyfnod lle mae ei amhoblogrwydd wedi achosi cryn ansicrwydd ar yr asgell chwith.

Roedd Francois Fillon yn brif weinidog rhwng 2007 a 2012 o dan yr Arlywydd Nicolas Sarkozy, ac Alain Juppe yn brif weinidog o dan yr Arlywydd Jacques Chirac o 1995 tan 1997.

Ar ôl rownd gynta’r bleidlais wythnos yn ôl, Francois Fillon oedd ar y blaen gyda 44.1% o bleidleisiau, Alain Juppe yn ail gyda 28.6% o bleidleisiau, a Nicolas Sarkozy yn drydydd gyda 20.7% o bleidleisiau.

Fe fydd ail rownd yn cael ei chynnal am nad oedd gan yr un o’r ymgeiswyr fwyafrif.

Gall unrhyw un dros 18 oed bleidleisio hyd yn oed os nad ydyn nhw’n aelod o’r blaid, dim ond eu bod nhw’n talu 2 Ewro yr un ac yn llofnodi datganiad yn dweud eu bod nhw’n weriniaethwyr.

Cafodd mwy na 4.2 miliwn o bleidleisiau eu cyfri yn y rownd gyntaf, ac mae disgwyl y canlyniadau diweddaraf heno.