Mae dull Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin o ymdrin â’r gwrthdaro â Syria yn “iawn ar y cyfan”, yn ôl un o’r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth UKIP.
Mae Putin wedi cael ei feirniadu droeon am feithrin polisi sydd wedi gweld nifer uchel o bobol gyffredin yn cael eu niweidio a’u lladd gan luoedd Syria.
Ond mae Paul Nuttall wedi canmol dulliau Putin, gan ddweud bod Putin wedi dod o hyd i’r ffordd gyflymaf o ddod â’r anghydfod i ben.
Daw ei sylwadau’n dilyn rhybudd gan y Prif Weinidog Theresa May y gallai Rwsia wynebu rhagor o sancsiynau.
Mae rhai o brif wledydd Ewrop a’r Unol Daleithiau’n cytuno fod y sefyllfa yn Syria’n annerbyniol wrth i luoedd y wlad gael cymorth Mosgo i fomio ardaloedd lle mae gwrthryfelwyr mewn grym ar hyn o bryd.
Mae Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol San Steffan, Priti Patel wedi cyhuddo Rwsia a Syria o fod yn “annynol” ac o achosi “argyfwng dyngarol bwriadol” yn nwyrain Aleppo, lle mae degau o filoedd o bobol gyffredin mewn perygl.
Ond mae Nuttall yn dadlau bod Rwsia’n targedu eithafwyr yn unig, er bod adroddiadau o’r wlad yn awgrymu i’r gwrthwyneb.
Dywedodd Nuttall wrth raglen ‘Sunday Politics’ y BBC: “Dw i’n meddwl bod Putin yn ddyn cas ar y cyfan ond y tu hwnt i hynny dw i’n credu, o ran y Dwyrain canol er enghraifft, ei fod e’n ei chael hi’n iawn mewn nifer o ffyrdd.
“Mae angen i ni ddod â’r anghydfod yn Syria i ben mor gyflym â phosib.”
Ychwanegodd fod rhaid sicrhau bod Syria’n dod yn “wladwriaeth sefydlog”.