Mae arweinydd yr wrthblaid yn Iwerddon wedi cyhuddo Prydeinwyr o “genedlaetholdeb cyntefig” wrth benderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Micheal Martin wedi galw am gynllun gweithredu brys yn Nulyn er mwyn mynd i’r afael â’r hyn y mae’n ei alw’n “wrthdrawiad araf bach”, gan fynnu bod yr Undeb Ewropeaidd yn hepgor rheolau sy’n atal y diwydiannau lleiaf llewyrchus rhag cael cymorth ariannol yn sgil Brexit.

Dywedodd nad yw Iwerddon “am ymuno â’r Saeson yn eu chwant dros ddiwygio’r ugeinfed ganrif”, gan feirniadu eu “hideoleg asgell dde o reolau masnachu heb ddimensiwn cymdeithasol na chyfreithiau y gellir eu gweithredu”.

Mae llywodraeth Fine Gael Iwerddon yn ddibynnol ar blaid Martin, Fianna Fail am gefnogaeth er mwyn cadw eu gafael ar eu grym.

Dywedodd Martin: “Mae Prydain wedi dilyn trywydd cenedlaetholdeb cyntefig, gan ddrwgdybio pobol o’r tu allan ac ymrwymo i’r syniad hanesyddol anghywir nad oes angen cyrff cenedlaethol cryf arnoch chi i sicrhau cydweithrediad a llewyrch tymor hir rhwng cenhedloedd.”

Dywedodd fod polisi’r llywodraeth yn “siambls” ac yn “achosi niwed”.

“Dydy Brexit ddim yn rhywbeth sy’n digwydd ymhen dwy flynedd, mae’n digwydd nawr.”