Mae Gary Speed wedi cael ei gofio’r prynhawn yma gan gefnogwyr dau o’i glybiau, Leeds a Newcastle, bum mlynedd ar ôl ei farwolaeth yn 42 oed.

Gyda’r ddau glwb hyn y mae’n cael ei gofio fel chwaraewr ac fe fu’r cefnogwyr y ddau glwb yn rhoi cymeradwyaeth iddo ar ôl 11 munud, gan adlewyrchu’r rhif a wisgodd ar ei gefn.

Parodd y gymeradwyaeth dros ddwy funud, ac mae ei rieni yn stadiwm Elland Road y prynhawn yma.

Bu farw Speed ar 27 Tachwedd 2011, a hynny yn ystod ei gyfnod yn rheolwr ar dîm Cymru.

Chwaraeodd mewn 678 o gemau i’r ddau glwb gyda’i gilydd, gan gynrychioli Cymru 85 o weithiau.

Mae’r gêm yn cael ei darlledu’n fyw ar Sky Sports.