Baner y wladwriaeth Islamaidd
Mae milwyr Irac yn dal i ennill tir yn raddol yn eu cyrch i ail-gipio dinas Mosul, ail ddinas fwyaf wlad, o afael y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Maen nhw wedi symud ymlaen i ddwy gymdogaeth newydd, Muharabeen ac Ulama, heddiw, ar ôl rhyddhau cymdogaeth Tahrir ddoe.

Dywedodd un o gadfridogion lluoedd arbennig Irac fod gwrthryfelwyr IS yn taro’n ôl yn galed gyda sneipwyr, rocedi a grenadau.

Yn hwyr neithiwr, fe wnaeth grŵp o wrthryfelwyr IS ymosod ar bentref Imam Gharbi i’r de o Mosul, a’i reoli am oriau, cyn i ymosodiadau o’r awyr gan luoedd rhyngwladol o dan arweiniad America eu trechu.

Neithiwr hefyd, fe wnaeth lluoedd cefnogol i lywodraeth Irac feddiannu maes awyr milwrol Tal Afar i’r gorllewin o’r ddinas, a all fod yn ganolfan allweddol wrth drefnu cyrchoedd pellach yn erbyn IS.

Y cyrch i adennill Mosul, a gafodd ei lansio ar 17 Hydref, yw’r cyrch milwrol mwyaf yn Irac ers i filwyr America adael yn 2011. Os bydd yn llwyddiannus, ail-gipio Mosul fydd yr ergyd gryfaf yn erbyn califfet y Wladwriaeth Islamaidd sy’n ymestyn i Syria.

Mae Mosul wedi bod yn eu meddiant ers haf 2014.