Istanbwl
Mae adroddiadau bod 76 o academyddion yn cael eu dal mewn prifysgol yn Istanbwl, fel rhan o ymchwiliad i’r rhai sy’n ceisio cipio grym yn Nhwrci.

Daw hyn wedi i bennaeth NATO ddweud fod swyddogion o Dwrci wedi ceisio am loches mewn gwledydd eraill wedi i i’r ymgais filwrol i gipio grym fethu yn gynharach eleni.

Mae’r llywodraeth yn Nhwrci wedi arestio bron 37,000 o bobol, ac wedi diswyddo neu ddiarddel 100,000 o swyddogion ers y trais ym mis Gorffennaf.