Y Bataclan wedi'r gyflafan flwyddyn yn ôl
Cafodd neuadd gyngherddau’r Bataclan ei ail-agor ym Mharis neithiwr gyda chyngerdd yng nghwmni Sting.

Flwyddyn yn ôl i heddiw, cafodd 89 o bobol eu lladd yn dilyn ymosodiad gan eithafwyr Islamaidd yn ystod gig gan y band metal Eagles of Death.

Ac mae adroddiadau na chafodd prif leisydd y band, Jesse Hughes fynd i mewn i’r lleoliad neithiwr yn dilyn sylwadau cyhoeddus a wnaeth yn beirniadu swyddogion diogelwch yn dilyn y gyflafan.

Eagles of Death oedd yn perfformio ar noson y gyflafan, ac fe awgrymodd Hughes fod swyddogion diogelwch wedi chwarae rhan yn y gyflafan.

Yn ôl y lleoliad, mae Hughes a’i dîm o reolwyr yn bobol ‘non grata’ ac felly cawson nhw eu troi oddi yno, ond mae’r band yn gwadu hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran y lleoliad ei fod yn credu bod y band wedi manteisio ar y gyflafan er mwyn hyrwyddo eu hunain a’u cerddoriaeth, a bod hynny’n amharchu’r rhai fu farw.

Mae Hughes wedi ymddiheuro am ei sylwadau ers y gyflafan.

Roedd yr ymosodiad ar y Bataclan yn un o nifer o ymosodiadau ar brifddinas Ffrainc, oedd yn cynnwys nifer o fwytai a stadiwm Stade de France.

Bu farw 130 o bobol yn yr ymosodiadau gan Omar Ismail Mostefai, 29, Samy Amimour, 28, a Foued Mohamed-Aggad, 23.

Sting

Ar y noson, dywedodd Sting wrth y dorf: “Mae gyda ni ddau beth pwysig i’w gwneud heno. Yn gyntaf, cofio ac anrhydeddu’r rhai a gollodd eu bywydau yn yr ymosodiadau flwyddyn yn ôl, a dathlu bywyd a cherddoriaeth y lleoliad hanesyddol hwn.

“Felly cyn i ni ddechrau, hoffwn ofyn i ni gynnal munud o dawelwch… Fyddwn ni ddim yn eu hanghofio nhw.”

Bydd yr holl elw, a thâl Sting, yn mynd at elusen Life for Paris a 13 Novembre: Fraternité Verité.

Ymhlith y cyngherddau eraill i ddod yn y lleoliad mae Pete Doherty nos Fercher a nos Iau, a Youssou N’Dour nos Wener a nos Sadwrn.