Park Geun-hye, arlywydd De Korea
Mae cannoedd o filoedd o bobl wedi bod yn gorymdeithio yn Seoul, prifddinas De Korea, yn galw am ymddiswyddiad arlywydd y wlad, Park Geun-hye.

Mae strydoedd yng nghanol y ddinas wedi bod yn orlawn yn y gwrthdystiad mwyaf yn y wlad ers diwedd llywodraeth unbenaethol dros 30 mlynedd yn ôl.

Mae arlywyddiaeth Park Geun-hye wedi bod o dan gysgod amheuaeth fod ei phrif ymgynghorydd, Choi Soon-sil, yn camddefnyddio ei grym i roi pwysau ar gwmnïau i gyfrannu degau o filiynau o ddoleri i sefydliadau o dan ei rheolaeth.

Mae un o uchel swyddogion cwmni mwyaf y wlad, Samsung, eisoes o dan amheuaeth o wario miliynau o ddoleri o arian y cwmni yn anghyfreithlon mewn perthynas â hyn.

Mae gan Park Geun-hye 15 mis ar ôl o dymor ei harlywyddiaeth. Os bydd yn ymddiswyddo yn y cyfamser, fe fydd yn rhaid cynnal etholiad o fewn 60 diwrnod.