Mae rhai o wledydd y byd wedi bod yn ymateb i’r newydd fod Donald Trump wedi’i ethol yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, ac mae rhai yn hapusach na’i gilydd…

China

Mae cyfryngau’r wladwriaeth yn dweud bod yr etholiad arlywyddol yn dangos y creisis y mae democratiaeth America ynddo, a’r modd y mae “mwyafrif o’r bobol yn rebelio yn erbyn dosbarth gwleidyddol, cyfoethog”.

Mae papur newydd swyddogol y Blaid Gomiwnyddol yn dweud fod yr etholiad yn dangos “democratiaeth sydd wedi torri i lawr”.

Ffrainc

Mae Marine Le Pen, y gwleidydd sy’n gwrthwynebu mewnfudo, wedi trydar ei llongyfarchiadau i “bobol America, rhydd!”

Ond mae gweinidog tramor y wlad, Jean-Marc Ayrault, wedi mynegi ei amhueon am Mr Trump gan ddweud, “Dydyn ni ddim eisiau byd lle mae egotistiaeth yn drech”. Roedd llywodraeth sosialaidd Ffrainc wedi cefnogi Hillary Clinton.

Ciwba

Mae’r blaid gomiwnyddol wedi cyfadde’ ei bod yn “pryderu” oherwydd fod Donald Trump yn agor “pennod newydd” yn hanes y ddwy wlad. Mae eraill yn poeni y gallai’r Arlywydd newydd annog gwrthryfelwyr oedd yn poeni fod Ciwba yn closio gormod at yr Unol Daleithiau.

Mae’r ffaith bod y ddwy wlad wedi bod yn trafod, wedi achosi cynnydd mewn twristiaeth, ac mae Ciwba wedi bod ar ei hennill. Ond mae Donald Trump wedi addo dad-wneud y cytundebau rhwng Barack Obama ac arlywydd Ciwba, Raul Castro.

Japan

Mae prif ygrifennydd cabinet llywodraeth Japan, Yoshihide Suga, wedi cadarnhau ymrwymiad y wlad i’r berthynas waith gyda’r Unol Daleithiau. Y berthynas honno, meddai, fydd conglfaen y ddiplomyddiaeth rhwng Japan ac America.

Indonesia

Ar y we, mae pobol y wlad wedi bod yn cwestiynu pam mae Americanwyr wedi troi yn eu miliynau at Mr Trump, o gofio mai Indonesia yw’r wlad Fwslimaidd fwya’ yn y byd.

Mae gwefannau Twitter, Facebook ac eraill wedi bod yn chwilboeth wrth i bobol aros i weld a fydd Donald Trump yn cadw at ei addewid etholiad o wrthod mynediad i Fwslimiaid i’r Unol Daleithiau. Mae tua 100,000 o bobol o Indonesia yn byw yn America.

Awstralia

Fe fydd y drefn newydd yn wynebu “nifer o sialensau” meddai gweinidog tramor Awstralia, Julie Bishop, ond mae wedi cadarnhau bod Awstralia eisiau cydweithio’n adeiladol gyda’r llywodraeth newydd er mwyn sicrhau “presenoldeb ac arweiniad” yr Unol Daleithiau yn ardal Asia a’r Môr Tawel.

Yr Almaen

Mae’r gweinidog amddiffyn, Ursula von der Leyen, wedi galw’r canlyniad yn “sioc” a yn “bleidlais yn erbyn Washington a’r sefydliad”.

Rwsia

Mae arweinydd y blaid Ryddfrydol Ddemocrataidd, Vladimir Zhirinovsky, wedi croesawu’r ffaith i’r “ymgeisydd gorau o’r ddau a gyflwynwyd i bleidleiswyr America” wedi bod yn llwyddiannus, ac mae’n gobeithio y bydd llysgennad presennol yr Unol Daleithiau yn Mosgow, John Tefft, yn gadael. “Mae o’n casau Rwsia,” meddai.

Yr Iseldiroedd

Mae Geert Wilders, yr ymgyrchydd gwrth-Islam, wedi llongyfarch Donald Trump. Mae ei blaid ef, Plaid Rhyddid, yn boblogaidd yn y polau ar hyn o bryd, ac mae etholiad yn eu haros ym mis Mawrth. “Mae hon yn fuddugolieth hanesyddol!” meddai Wilders. “Mae’n chwyldro.”