Mae deunaw o bobol wedi eu lladd mewn gornest rhwng ffermwyr y bugeiliaid yn Niger, gorllewin Affrica.
Cafodd 43 o bobol eraill eu hanafu ac fe roddwyd tai ar dân yn y digwyddiad ym mhentre’ Bangui yn ardal Tahoua.
Dywedodd y llywodraeth y bydd ymchwiliad i’r “digwyddiad erchyll”.
Nid yw hi’n anghyffredin i ffermwyr a bugeiliaid wrthdaro dros dir ac adnoddau yng ngorllewin Affrica.