Mae awdurdodau Ffrainc wedi dechrau symud plant o safle’r ffoaduriaid yn Calais i amryw ganolfannau prosesu ym mhob cwr o’r wlad.

Mae’r rhan fwyaf yn fechgyn yn eu harddegau, ac fe gawson nhw eu cludo oddi ar y safle mewn bysus y bore yma.

Yr wythnos ddiwetha’, fe gafodd mwy na 5,000 o oedolion eu symud o’r safle sy’n cael ei adnabod wrth yr enw ‘y Jyngl’.

Ond fe fu ansicrwydd ers hynny beth fyddai’n digwydd i bron i 1,500 o blant oedd heb gwmni oedolyn.

Daeth y rhan fwyaf o’r ffoaduriaid o wledydd y Dwyrain Canol ac Affrica yn y gobaith o gyrraedd y lan yng ngwledydd Prydain.

Dywedodd Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande y byddai awdurdodau gwledydd Prydain yn penderfynu a fydd gan y ffoaduriaid yr hawl i loches.