Hillary Clinton (Llun: o wefan ei hymgyrch)
Mae ymchwilwyr yr FBI wedi cael gwarant i archwilio e-byst newydd a allai fod yn berthnasol i’r ymchwiliad gwreiddiol i e-byst yr ymgeisydd arlywyddol, Hillary Clinton.

Daeth yr ymchwiliad i e-byst preifat Hillary Clinton i ben ym mis Gorffennaf heb unrhyw gyhuddiadau.

Ond ddydd Gwener fe gyhoeddodd Cyfarwyddwr yr FBI, James Comey, eu bod wedi dod o hyd i gyfres newydd o e-byst a allai fod yn berthnasol i’r ymchwiliad.

Mae’r e-byst yn eiddo i un o gynorthwywyr Hillary Clinton, sef Huma Abedin, ac yn ôl yr FBI maen nhw wedi’u canfod ar gyfrifiadur Anthony Weiner, oedd yn ŵr iddi ac yn gyngreswr Efrog Newydd.

Mae’r FBI yn awyddus i adolygu’r e-byst i weld a ydynt yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol ac wedi’u trin yn gywir.

‘Torri’r gyfraith’ 

Ond gydag ychydig dros wythnos i fynd tan ddiwrnod yr etholiad mae un Democrat wedi dweud y gallai James Comey fod wedi torri’r gyfraith drwy gyhoeddi’r ymchwiliad diweddaraf hwn mor agos at yr etholiad.

Mae Donald Trump wedi ymateb drwy ddweud y gallai ei ymgyrch yntau ennill momentwm yn nyddiau ola’r ras.

Nid yw’r ymchwilwyr wedi cyhoeddi pa bryd y maen nhw’n disgwyl y byddan nhw’n cwblhau’r ymchwiliad, ond maen nhw wedi dweud y byddan nhw’n gweithredu cynted ag y gallan nhw.