Y difrod wedi'r daeargryn yn yr Eidal Llun: PA
Mae disgwyl y bydd tua 11,000 o bobl angen cymorth gan asiantaeth sifil yn yr Eidal yn dilyn tri daeargryn grymus yn y wlad o fewn y ddeufis diwethaf.
Roedd y daeargryn, a oedd yn mesur 6.6 ar raddfa Richter, wedi taro fore dydd Sul, a’r un mwyaf nerthol yn yr Eidal ers 36 mlynedd.
Er nad oes unrhyw un wedi’u lladd, mae nifer o adeiladau hynafol mewn trefi bach hanesyddol wedi’u dinistrio.
Bu farw bron i 300 o bobl mewn daeargryn ar 24 Awst.
Mae bron i 8,000 o bobl wedi’u symud i wersylloedd neu westai yn dilyn daeargrynfeydd llai wythnos ddiwethaf a dydd Sul, ond mae disgwyl i’r ffigwr godi i 11,000 erbyn bore ma.