Mae cyrch awyr tu allan i ysgol yng ngogledd Syria wedi lladd o leiaf 22 o bobol, y rhan fwya’ yn blant, yn ôl Arsyllfa Hawliau Dynol Prydain yn Syria.

Mae pryder y bydd nifer y meirw yn cynyddu gan fod sawl un mewn cyflwr difrifol.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad wrth i blant gasglu y tu allan i’r ysgol ym mhentref Hass, yn nhalaith Idlib, sy’n ardal wedi’i rheoli gan wrthryfelwyr.

Mae’r ardal wedi dioddef sawl ymosodiad gan awyrennau o Syria a Rwsia yn ogystal ag awyrennau’r Unol Daleithiau sy’n targedu grŵp y Wladwriaeth Islamaidd (IS).