Y gwaith yn parhau i ddymchwel gwersyll Y Jyngl yn Calais Llun: @HelpRefugeesUK/PA
Mae sawl tân wedi amharu ar y gwaith o glirio’r gwersyll ffoaduriaid yn Calais.
Fe ddechreuodd y gwaith o glirio’r safle – sy’n cael ei adnabod fel ‘y Jyngl’ – dridiau’n ôl.
Ond mae lle i gredu bellach fod carafanau, pebyll, adeiladau siopau a bwytai dros dro wedi cael eu dinistrio yn ystod y tanau a gymerodd dair awr i’w diffodd.
Mae pedwar o ffoaduriaid wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynnau’r tanau’n fwriadol, yn ôl yr heddlu yn Calais.
Yn ôl adroddiadau, roedd modd clywed nwy yn ffrwydro wrth i’r fflamau godi.
Mae gweithwyr dyngarol wedi bod yn helpu’r gwasanaethau brys i ddiogelu’r safle, ac mae heddlu arfog yn gwarchod y gwersyll.
Mae elusen Achub y Plant wedi mynegi pryder am ddiogelwch plant yn y gwersyll, ac mae elusen ffoaduriaid Help Refugees wedi dweud bod plant wedi cael eu hanfon yn ôl i’r gwersyll heb oedolion wrth i’r tanau barhau.