Mae plant ymhlith y meirw wedi'r ymosodiadau diweddaraf yn Aleppo Llun: PA
Mae o leiaf 13 o bobl, gan gynnwys plant, wedi’u lladd mewn ymosodiadau awyr ar ardal o ddinas Aleppo sy’n cael ei rheoli gan wrthryfelwyr.
Meddai Arsyllfa Syria ar Hawliau Dynol bod pump o blant ymhlith y meirw yn dilyn yr ymosodiadau ar ardal Marjeh.
Mae Canolfan Cyfryngau Aleppo hefyd yn dweud bod 11 o’r rhai gafodd eu lladd yn aelodau o’r un teulu gan gynnwys merch mis a hanner oed a dyn 25 mlwydd oed.
Mae ymosodiadau awyr wedi’u cynnal dros rannau o Aleppo ers i gadoediad a drefnwyd gan yr Unol Daleithiau a Rwsia ddod i ben ym mis Medi.
Mae cannoedd wedi’u lladd, nifer wedi’u hanafu ac adeiladau wedi’u dymchwel ers i’r ymosodiadau ddechrau.
Yn y cyfamser, mae’r Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson wedi annog Arlywydd Rwsia Vladimir Putin i roi’r gorau i gydweithio gydag Arlywydd Syria Bashar Assad er mwyn dod a’r ymosodiadau i ben.
Wrth iddo gyrraedd Lwcsembwrg y bore ‘ma ar gyfer trafodaethau gyda gweinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd Boris Johnson y byddent yn ystyried sancsiynau economaidd pellach ar Rwsia yn ogystal â chynyddu’r pwysau diplomyddol ar Moscow.