Mae pedwar o bobol wedi cael eu lladd a 14 wedi’u hanafu ar ôl i falconi gwympo yn Angers yn Ffrainc.

Digwyddodd y ddamwain nos Sadwrn mewn fflat a gafodd ei adeiladu’n ddiweddar.

Mae un person mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae lle i gredu bod y bobol a gafodd eu hanafu oddeutu 20 oed.

Mae ymchwiliad ar y gweill.