Mae ymgais gan Ogledd Corea i lansio taflegryn wedi methu ar ôl iddo ffrwydro, yn ôl De Corea a’r Unol Daleithiau.

Mae lle i gredu bod llywodraeth Gogledd Corea wedi ceisio lansio taflegryn Musudan ger maes awyr gogledd Pyongyang.

Mae De Corea wedi beirniadu’r ymgais sy’n mynd yn groes i reolau’r Cenhedloedd Unedig.

Ond mae byddin yr Unol Daleithiau’n mynnu nad oedd y taflegryn yn fygythiad i Ogledd America.

Mae Siapan hefyd wedi mynegi pryder ynghylch diogelwch y wlad.

Fis diwethaf, lansiodd Gogledd Corea dri thaflegryn oddi ar eu harfordir dwyreiniol a’r cyfan, yn ôl adroddiadau, yn ymgais i brofi y gall y wlad fod ar flaen y gad o ran taflegrau.

Mae’r wlad wedi lansio mwy nag 20 o daflegrau eleni.